Search

Ydych chi’n siarad carbon? Dyma’r diweddaraf ar ein gwaith i gyflymu’r newid tuag at gymdeithas garb

Mae partner Cyngor Cymru ar gyfer dysgu yn Yr awyr agored, sef Parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhannu eu taith I ddod yn sefydliad carbon credadwy.



Gyda chynhadledd hinsawdd COP26 yn cael ei chynnal yn Glasgow ar hyn o bryd, mae'r genedl yn chwilio am atebion. Ond a yw hyn yn eich gadael yn pendroni beth mae hyn yn ei olygu i chi?


Os ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am yr hyn y gallwch chi ei wneud, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn rhaglen Llythrennedd Carbon. Llythrennedd carbon yw ‘ymwybyddiaeth o gostau ac effeithiau carbon deuocsid ar weithgareddau pob dydd a’r gallu a’r awydd i ostwng allyriadau,” yn ôl y Prosiect Llythrennedd Carbon. Hynny yw, helpu unigolion, cymunedau a sefydliadau ddysgu am newid hinsawdd ac effaith ein gweithrediadau pob dydd ar y blaned yn ogystal â’r newidiadau positif y gallwn ni eu gwneud i leihau ein heffaith a’n hallyriadau.


Yn ddiweddar, daeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y Parc Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru i dderbyn hyfforddiant llythrennedd carbon. Dysgodd y naw aelod o’n staff a gymerodd rhan sut i leihau eu hôl troed carbon: fel unigolyn, o fewn eu cymuned a thrwy eu gwaith gyda’r Parc Cenedlaethol. Rhan hanfodol o hyn yw ein gwaith yn dysgu ysgolion a chymunedau lleol sut y gallen nhw chwarae rhan.


Meddai Hayley Sharp, Swyddog Addysg: “Rydym eisiau gwneud pobl yn ymwybodol o broblemau hinsawdd yn ogystal â gwaith y Parc Cenedlaethol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Er enghraifft, ein prosiectau i warchod mawndiroedd, adfer bioamrywiaeth a’n bod yn defnyddio solar, cerbydau trydan a mwy.Mae ein tîm addysg yn canolbwyntio ar gael plant i gymryd rhan er mwyn eu helpu i deimlo’n bositif am y dyfodol. Rydyn ni’n rhedeg rhaglen Gweithredu Hinsawdd sy’n gofyn i ysgolion, pobl ifanc a’u teuluoedd addo cymryd rheolaeth a gwneud rhywbeth positif. Gallai hynny fod yn ymrwymo i giniawau diwastraff, pasio gwisgoedd ysgol ymlaen yn hytrach na’u taflu i ffwrdd, cerdded i’r ysgol neu hyd yn oed gychwyn gardd neu lain llysiau.”


Ychwanegodd ei chydweithiwr Eleri Thomas, “Mae pawb yn gallu gwneud rhywbeth bach.A phe byddai pawb yn gwneud rhywbeth, bydd hynny’n gwneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn ffordd o roi gobaith i bobl fod yna atebion i’r argyfwng hinsawdd, sydd weithiau’n gallu teimlo’n llethol.”


Wrth sôn am hinsawdd, mae’r tîm wedi darganfod fod llawer iawn o’r plant eisoes yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwarchod y blaned. “I fod yn onest, rwy’n meddwl fod y plant yn gwybod mwy na llawer o bobl hŷn”, meddai Hayley.


“Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar nerthu gweithredu hinsawdd,” meddai Eleri:"Mae wedi mynd yn rhy bell nawr i ddim ond clebran. Rydym eisiau i blant a theuluoedd gael eu hysbrydoli a sylweddoli y gallen nhw wneud rhywbeth i wneud gwahaniaeth. Efallai mai dim ond cyfnewid syml fydd hynny i ddechrau - megis newid eich potel o shampŵ am far shampŵ - ond mae angen dal ati gyda’r newidiadau hyn ac iddyn nhw ddod yn arferion. Mae mor hawdd mynd yn ôl at y botel shampŵ. Ond, mae hyn i gyd yn golygu cymryd cyfrifoldeb a gofalu am y blaned ac am ein gilydd.”


Felly, beth allwch chi ei wneud yn eich cymuned chi? Dyma ychydig o syniadau am ffyrdd syml y gallwch chi ostwng eich effaith ar ein planed.

· Cerdded neu gymryd cludiant cyhoeddus yn lle gyrru

· Defnyddio llai o blastig ac ailgylchu ble bynnag bo’n bosibl

· Plannu gardd, llain llysiau neu goeden

· Pan fydd eich plant yn tyfu allan o’u dillad, eu pasio ymlaen i eraill neu’u rhoi i elusen

· Newid i gyflenwr trydan adnewyddol


“Rydym wedi gweld cymaint o bobl yn cymryd camau mawr i droedio’n ysgafnach ar y blaned,” meddai Eleri. "Rydym eisiau dathlu’r camau anhygoel mae pobl eisoes yn eu cymryd yn ogystal â rhoi syniadau eraill i gymunedau y gallen nhw eu gwneud. Rydyn ni i gyd yn rhan o’r ecosystem gywrain hon ac mae’n rhaid i ni gadw cydbwysedd iach er mwyn dyfodol ein plant a’r cenedlaethau i ddod."

3 views0 comments