top of page
Podium
Cysylltu Gyda Llywodraeth Cymru
PUfoyFzE_400x400 (1).png

Un o brif ddibenion allweddol Cyngor Cymru ar Gyfer Dysgu yn yr Awyr agored yw:

Lobïo dros ddatblygu / cydnabod Dysgu Awyr Agored gyda Llywodraeth Cymru ac agendâu allweddol eraill

Cewch weld enghreifftiau o rai o’r ffyrdd rydym wedi gwneud hyn isod.

1.

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Diweddaru ‘Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru' yn Ionawr 2023

2.

Gweler ein llythyr at y gweinidog addysg newydd Jeremy Miles, i adeiladu ar y berthynas flaengar a ddatblygwyd rhwng cyngor Cymru ar gyfer dysgu awyr agored a Gweinidog Addysg y Senedd, Kirsty Williams.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Jeremy er budd dysgu awyr agored, natur a chefnogi pobl ifanc i wneud gwahaniaeth.

3.

Rydym wedi cael ymateb gan y gweinidog addysg Jeremy Miles. Cewch ei ddarllen yma.

4.

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad 'Canllawiau Iaith Arwyddion Prydain' Cwricwlwm i Gymru ym mis Mawrth 2021

5.

Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriad ‘Canllawiau fframwaith drafft ar wreiddio dull ysgol gyfan’ yn ymwneud ag iechyd a llesiant ym mis Medi 2021.

6.

Fe wnaethom ymateb i ymgynghoriad 'Canllawiau Drafft Cwricwlwm i Gymru 2022' ym mis Gorffennaf 2019

7.

Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriad ‘Parchu Eraill’ sy’n ymwneud â gwrth-fwlio ym mis Chwefror 2019.

8.

Fe wnaethom ymateb i'r ymgynghoriad 'Cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon'.

1

Ymgynghoriad ‘Cynllun 10 mlynedd drafft ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru’ yn 2014.

2

Ymgynghoriad cwricwlwm 'Y Drafodaeth Fawr' yn 2015

3.

'Draft criteria for the accreditation of Initial Teacher Education programmes in Wales and the proposal for the Education Workforce Council to accredit initial teacher education' consultation 2016 

Gardening Lesson
Partneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd Cymru

Wedi’i lansio yn 2009, daeth Partneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd Cymru â sefydliadau ynghyd sy’n cefnogi darparu Dysgu yn yr Awyr Agored tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.

Rhannodd y bartneriaeth arfer dda ymhlith ei haelodau a chyda'r sector addysg trwy ddigwyddiadau hyfforddi ac adnoddau. Gweithredodd y bartneriaeth fel llais i’r sector gan helpu i godi proffil dysgu tu hwnt i’r dosbarth ac amlygu ei fanteision niferus. Ei nod oedd meithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'i werth a'i gyfraniad hanfodol i ddatblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

Yn 2017, adolygwyd y bartneriaeth a daeth yn Gyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored. Cyflwynwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad isod fel Partneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd Cymru yn 2018.

Mae hanes cryno yn Saesneg o'r 'Bartneriaeth Dysgu Byd Go Iawn' ar gael yma - bydd fersiwn Cymraeg ar gael cyn hir.

bottom of page