top of page

Hyfforddiant a Digwyddiadau
Digwyddiadau Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru
Roedd Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru yn un o’r nifer o ddigwyddiadau ar hyd a lled y wlad y bu’n rhaid eu canslo neu eu gohirio yn 2020 oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae’r Wythnos Dysgu Awyr Agored yn ôl eleni, gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal rhwng 19-25 Ebrill. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, bydd y rhain yn cael eu cynnal yn rhithwir – ond bydd digon o gyfle i bobl ledled Cymru gymryd rhan a threulio amser yn yr awyr agored.
Sefydlwyd yr Wythnos yn 2019 gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â Chyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored.

bottom of page